Roma yng Nghymru

Teulu o Roma Cymreig a'u carafán. Ffotograff gan Geoff Charles (1951).

Grŵp ethnig hanesyddol yng Nghymru sydd yn perthyn i bobloedd eraill y Roma yw'r Roma yng Nghymru, y Sipsiwn Cymreig neu'r Kale.

Mae'n debyg i'r bobl Roma fyw yng Nghymru, neu deithio drwyddi, ers y 15g. Yn ôl traddodiad, Abram Wood neu "Frenin y Sipsiwn" oedd y cyntaf ohonynt i breswylio yng Nghymru yn barhaol a hynny yn y 18g. Bu'r mwyafrif o Roma Cymreig ers hynny yn honni'r un waedoliaeth a chyfeirir atynt felly fel teulu Abram Wood. Maent yn perthyn i'r Romanichal yn Lloegr, ac mae'r hen iaith Romani Gymreig ar y cyfan yn unfath â'r Eingl-Romani.

Er iddynt parhau a'u bywyd crwydrol yn y 19g a dechrau'r 20g, cawsant eu cymhathu i ddiwylliant y Cymry mewn sawl ffordd, gan gynnwys troi at Gristnogaeth, mabwysiadu cyfenwau Cymraeg, a chymryd rhan mewn eisteddfodau. Amcangyfrifir bod rhyw 3000 o Roma yng Nghymru yn yr 21g.[1] Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 0.1% o boblogaeth Cymru (2,785 o bobl i gyd) yn ystyried eu hunain yn Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig o ran eu hethnigrwydd.[2]

  1. Donald Kenrick, Historical Dictionary of the Gypsies (Romanies) ail argraffiad (Plymouth: Scarecrow Press, 2007), tt. 289–90
  2. "Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru, Mawrth 2011", Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd ar 26 Medi 2018.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search